![]() Bywyd IoloDeunydd hunangofiannol (NLW 21387E ) Y Sylwebydd Amaethyddol a'r Ffermwr Iolo Morganwg: Radical GwleidyddolCarchar Newgate, Llundain, oedd un o garchardai amlycaf Prydain. Yn ystod 'teyrnasiad brawychus' honedig William Pitt yn y 1790au cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y gwrthwynebwyr gwleidyddol a gadwyd yno. Yn eu plith yr oedd William Winterbotham, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a garcharwyd am bregethu bradwrus. Byddai Iolo'n ymweld ag ef, ac yr oedd yn enwog am alw ei hun yn 'Fardd Rhyddid' wrth lofnodi'r llyfr ymwelwyr. Adwaenai Iolo Richard Price, yr oedd yn gyfaill i David Williams, George Dyer a William Godwin, ac edmygai syniadaeth Tom Paine ar ryddid yn y gyfrol Rights of Man. Yn ystod y cyfnod pan oedd yn llywio'i gyfrol Poems, Lyric and Pastoral (1794) drwy'r wasg, cyfrannodd Iolo yn helaeth i weithgareddau gwleidyddol cymdeithasau'r Cymry yn Llundain drwy ymgorffori safbwyntiau gweriniaethol yn seremonïau'r Orsedd, ac wrth amddiffyn hawliau Anghydffurfwyr a Chymry dan ormes. Fe'i galwai ei hun yn 'Jacobin', 'Dinesydd' a 'Theocrat' a lluniodd ddwsinau o draethodau a cherddi di-flewyn-ar-dafod, dychanol a chwyldroadol. Gallai'n hawdd fod wedi cael ei garcharu am enllib, a phan ddychwelodd i Fro Morgannwg ym 1795, daeth o dan lygad barcud y llywodraeth, yn enwedig pan ddefnyddiodd ei siop groser a llyfrau i wrthwynebu caethwasiaeth ac i hyrwyddo masnach deg a Jacobiniaeth. Condemniodd y frenhiniaeth ('kingcraft') a'r offeiriadaeth ('priestcraft'), a tharanai yn erbyn rhyfel ac anghyfiawnder. Ni flinodd erioed ar gyhoeddi manteision 'Breiniau Dyn' (the Rights of Man). Chwaraeodd Iolo ran flaenllaw yng ngwleidyddiaeth y cyfnod drwy godi proffil achosion rhyddfrydol yng Nghymru a lledaenu syniadau democrataidd chwyldroadol trwy gyfrwng ei Undodiaeth, ei dderwyddiaeth newydd a'i weithgarwch barddol. Bu Iolo'n selog yn ei ymrwymiad dros ryddid gwleidyddol hyd ei farwolaeth ym 1826 a pharhaodd y cof am y 'rebel Dderwydd' yn fyw drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. |