E N G L I S H

PWY OEDD IOLO MORGANWG?

Saer Maen a Saer Cenedl


• Yr oedd, ac y mae, EDWARD WILLIAMS (1747-1826) yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol IOLO MORGANWG.

• Fel yr awgryma'r enw barddol hwn, un o frodorion bro MORGANNWG oedd Iolo, a'r sir hon a'i hanes oedd canolbwynt Barddas, ei weledigaeth farddol.

• Fel ei dad, gweithiai Iolo wrth ei grefft fel SAER MAEN.

• Ond ystyrir Iolo hefyd yn SAER CENEDL ar sail ei gyfraniad i ddeffroad diwylliannol y ddeunawfed ganrif ac am iddo ddyrchafu gwareiddiad Cymru trwy gyfrwng Barddas a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Iolo hefyd oedd y cyntaf i wyntyllu'r syniad o gael sefydliadau cenedlaethol i'r Cymry: sef llyfrgell, academi, amgueddfa ac amgueddfa werin.

• POLYMATH hunanaddysgedig oedd Iolo a thystia ei lawysgrifau i'w ddiddordebau amlochrog: derwyddiaeth, barddoniaeth, canu gwerin, hynafiaethau, pensaernïaeth, amaethyddiaeth, daeareg, iaith a thafodiaith, achau, radicaliaeth a diddymu caethwasanaeth.

• Iolo oedd un o lythyrwyr mwyaf diwyd Cymru'r ddeunawfed ganrif a gadawodd gorff o LYTHYRAU amrywiol a chyfoethog sy'n crynhoi holl ferw a thensiynau ei fywyd a'i gyfnod.

• Cofleidiodd RADICALIAETH wleidyddol a chrefyddol. Yn ogystal ag ymwneud â'r Gwyneddigion a bleidiai 'Rhydd-did mewn Gwlad ac Eglwys', yn ystod y 1790au bu'n troi ymysg cylchoedd radical Llundain. Taniwyd ef gan feddylwyr radicalaidd mwyaf blaenllaw ei gyfnod a daeth i adnabod nifer ohonynt yn bersonol: George Dyer, William Godwin, Joseph Johnson, Thomas Paine, Joseph Priestley, Robert Southey, John Thelwall, Horne Tooke, Gilbert Wakefield, a David Williams. O ran crefydd, Anghydffurfiwr Rhesymegol (Rational Dissenter) oedd Iolo a chwaraeodd rôl allweddol wrth osod seiliau'r achos UNDODAIDD yn ne Cymru.

• Gwelir ôl RHAMANTIAETH ar farddoniaeth a gweledigaeth farddol Iolo. Cafodd y darlun Rhamantaidd o Gymru a'i gorffennol a ddarluniodd ynddynt ddylanwad pellgyrhaeddol ar y modd y syniai'r Cymry amdanynt eu hunain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

• Yr oedd Iolo yn FARDD toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg, a barddonai hefyd yn enw beirdd eraill. Y cerddi a briodolodd i Ddafydd ap Gwilym yw'r mwyaf adnabyddus o'i weithgarwch fel FFUGIWR llenyddol, ac o ganlyniad enillodd enw iddo'i hun fel un o ffugwyr mwyaf llwyddiannus ei gyfnod yn Ewrop.


Dolenni Allanol:
Iolo Morganwg ar wefan Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru

Iolo Morganwg ar wefan Casglu'r Tlysau
Admin