E N G L I S H

G. J. Williams (1892–1963)

Darlithydd ac yna Athro yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd oedd G. J. Williams. Trwy gyfrwng ei astudiaeth fanwl o lawysgrifau Iolo Morganwg dangosodd mai Iolo ei hun a luniodd nifer o'r cerddi a briodolwyd i feirdd canoloesol fel Rhys Goch ap Rhiccert. Ei gyfrol arloesol Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad (1926) a ddangosodd i'r byd mai ffugiadau Iolo oedd y cerddi a argraffwyd yn yr 'Ychwanegiad' i argraffiad 1789 o gerddi Dafydd ap Gwilym.
Admin