E N G L I S H

Taliesin Williams (1787–1847)


Unig fab Iolo Morganwg oedd Taliesin Williams (Ab Iolo). Yr oedd yn ysgolfeistr ac yn fardd. Fe'i haddysgwyd am gyfnod byr yn Y Bont-faen cyn mynd i weithio fel saer maen gyda'i dad tua 1815. Bu hefyd yn cadw ysgol yn Silstwn a gweithiodd fel athro yng Nghastell-nedd hefyd.
Taliesin Williams
Ym 1816 sefydlodd ei ysgol ei hun ym Merthyr Tudful, y 'Commercial School', gyda'r etifeddiaeth a gawsai oddi wrth John, brawd ei dad, a oedd wedi ennill ffortiwn wedi iddo ymfudo i Jamaica. Bwriad Iolo oedd gweld Taliesin yn ei olynu ac yng Ngorseddau'r Maen Chwŷf, o 1815 ymlaen, dechreuodd Taliesin gymryd rhan fwy blaenllaw mewn gweithgareddau gorseddol. Urddwyd ef yn Ofydd yn ei absenoldeb mewn gorsedd yn Llundain ym 1792 (roedd yn bump oed ar y pryd!), ond ym 1814, yn un o orseddau'r Maen Chwŷf ym Mhontypridd, daeth Taliesin i oed fel Derwydd.

Fel unig fab Iolo, ystyrid Taliesin fel etifedd, cyfryngydd a dehonglydd ei dad. Bu'n cynorthwyo Iolo i baratoi Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829) ar gyfer y wasg a daeth archif ei dad i'w ofal ef. Serch hynny, nid oedd Taliesin wedi sylweddoli mai creadigaeth ddychmygus ei dad oedd barddas. Trwy ei ymwneud â'r cymdeithasau Cymraeg amrywiol a fuasai'n ddiwyd hybu'r Orsedd, llwyddodd Taliesin i gynnal momentwm y cyfarfodydd Gorseddol ar ôl amser ei dad. Gweithiodd yn ddiarbed i olygu detholiad cynhwysfawr o ysgrifau ei dad ar barddas. Cyhoeddwyd Iolo Manuscripts (1848) gan y Welsh Manuscripts Society. Yr oedd Taliesin hefyd yn eisteddfodwr brwd a byddai Iolo yn ei gynorthwyo i lunio'i gerddi cystadleuol. Cafodd beth llwyddiant eisteddfodol wedi dyddiau Iolo. Gwobrwywyd ei awdl, 'Y Derwyddon' (Eisteddfod Caerdydd, 1834), a'i draethawd ar Goelbren y Beirdd (Eisteddfod y Fenni, 1838).
Admin