E N G L I S H

Walter Davies (Gwallter Mechain, 1761–1849)


Walter Davies (Gwallter Mechain)

Walter Davies (Gwallter Mechain)

Wrth ddewis ei enw barddol talodd yr offeiriad, y bardd a'r hynafiaethydd Walter Davies, sef Gwallter Mechain, deyrnged i Lanfechain, sir Drefaldwyn. Derbyniodd ei addysg ffurfiol yn Neuadd Sant Alban, Rhydychen. Fe'i hordeiniwyd ym 1795 a threuliodd gyfran helaeth o'i yrfa eglwysig ym Manafon (1807–1837) ac yna yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Y mae'n adnabyddus fel un o'r Hen Bersoniaid Llengar ac fel eisteddfodwr a gorseddwr brwd. Ef oedd un o sylfaenwyr y cylchgrawn Y Gwyliedydd (1822–38) a chyhoeddodd hefyd weithiau barddonol Huw Morys a Lewys Glyn Cothi, ynghyd â Salmau Dafydd (1827) gan William Midleton a dwy gyfrol yn y gyfres A Topographical Dictionary of Wales (1833) gan Samuel Lewis.

Y mae ei ymwneud â Iolo yn ddiddorol ar sawl cyfrif. Yn gyntaf, ar gais y Bwrdd Amaeth, lluniodd arolwg o gyflwr economaidd gogledd Cymru (1810) a de Cymru (1815). Bu Iolo yn cydweithio ag ef ar y prosiect hwn a gwelir ôl ymchwil Iolo yn drwm ar y gyfrol orffenedig, A General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales (2 gyf., London, 1815). Yn ail, yr oedd Gwallter Mechain yn orseddwr brwdfrydig ac wrth iddo ef a'r Hen Bersoniaid Llengar eraill hybu'r Orsedd oddi mewn i fudiad yr Eisteddfodau Taleithiol, sicrhaodd fod yr Orsedd hithau, wedi dyddiau Iolo, yn tyfu'n sefydliad gwirioneddol genedlaethol. Yn olaf, adwaenai Iolo yn dda a gwyddai sut i'w drin a'i drafod. Er enghraifft, amheuai ddilysrwydd Coelbren y Beirdd ond datgelodd hynny mewn modd cynnil na fyddai'n bychanu Iolo (LlGC 21280E, Llythyr 72, Walter Davies at Iolo Morganwg, 16 Mai 1793). Prawf arall fod Gwallter Mechain yn gwybod hyd a lled Iolo, yw mai ef oedd un o'r ychydig bobl i gynnal cyfeillgarwch di-dor gydag ef.

Admin