E N G L I S H

John Walters (1721-97)


Yn frodor o sir Gaerfyrddin, yr oedd gan yr offeiriad a'r geiriadurwr John Walters gysylltiadau agos â Morgannwg. Fe'i haddysgwyd yn y sir, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Y mae ei dŸ yn Llandochau ger Y Bont-faen yn dal i sefyll. Cyhoeddodd ddwy bregeth ym 1772, ond fe'i cofir yn bennaf am ei Dissertation on the Welsh Language (1771) ac am ei Eiriadur Saesneg-Cymraeg, a seiliwyd ar lawysgrif William Gambold ac a gyhoeddwyd yn rhannau gan Rhys Thomas yn ei wasg yn y Bont-faen rhwng 1770 a 1794. Chwaraeodd y geiriadurwyr John Walters a Thomas Richards ran allweddol yn y deffroad diwylliannol ym Morgannwg ac yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif, a chawsant ddylanwad mawr ar syniadau ieithyddol Iolo. Cadwent mewn cysylltiad â'r Gramadegyddion ac yr oeddynt yn aelodau gohebol o gymdeithasau'r Cymry yn Llundain. Y mae'n fwy na thebyg mai drwy John Walters y daeth Iolo i adnabod Owen Jones (Owain Myfyr), a sicrhaodd ef fod rhannau olaf Geiriadur Walters yn cael eu cyhoeddi yn Llundain wedi i wasg Rhys Thomas fynd i'r wal.

Cyfarfu Iolo â John Walters am y tro cyntaf ar ddiwedd y 1760au (NLW/LlGC 21387E, rhif 10). Gwasanaethodd Walters ym mhriodas Iolo a Margaret yn Llan-fair ym 1782 ac yng ngwasanaeth bedydd eu plentyn cyntaf, Margaret, ym 1783. Cofnododd Daniel Walters, mab John Walters, ymweliadau Iolo â chartref ei dad yn Llandochau yn ei ddyddiaduron, a chafodd ef a'i frawd, John Walters yr ieuengaf, hefyd ddylanwad ar Iolo.

Yr oedd gan Iolo barch mawr at John Walters ac fe'i hystyriai ymhlith y beirniaid gorau yn yr iaith Gymraeg. O'r ochr arall, adwaenai Walters Iolo yn ddigon da i sylweddoli mai ffrwyth ei ddychymyg oedd Barddas, ond yr oedd o'r farn fod bys William Owen Pughe yn y brywes hefyd. Disgrifiwyd Barddas fel 'a made dish' gan Walters:

cooked up from obscure scraps of the ancient Bards, and the Cabala (the pretended arcana) of the modern ones; a superficial acquaintance with the Metempsychosis; and these ingredients spiced with an immoderate quantity of wild Invention. It is a species of Free Masonry . . . All that I shall further say on the Subject is that Mr Owen and his Coadjutor have not clubb'd their wits for nothing.
(Cardiff 3.104, cyf. 6, Llythyr rhif 3, John Walters at Edward Davies, 3 Mai 1793)

Admin